Os fyddwch chi’n mynd i ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin rhwng 1 Mai a 30 Tachwedd, bydd canllawiau ychwanegol yn berthnasol i chi.
Ni fyddwch chi’n gallu rhoi gwaed am o leiaf 28 diwrnod o’r dyddiad y byddwch yn dychwelyd, a bydd hyn yn cael ei ymestyn i chwe mis os ydych chi wedi cael eich diagnosio gyda Feirws Nîl y Gorllewin neu os ydych chi wedi cael symptomau a allai fod wedi bod yn gysylltiedig â Feirws Nîl y Gorllewin.
Mae’r gohiriadau dros dro hyn yn cael eu gosod i geisio lleihau’r risg o drosglwyddo Feirws Nîl y Gorllewin i gleifion sy’n cael trallwysiadau gwaed.
Os bydd yn rhaid i ni eich gohirio chi dros dro rhag rhoi gwaed, ceisiwch roi gwaed cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r cyfnod gohirio ddod i ben, gan fod pob rhodd o waed yn bwysig iawn.